Wrecsam
Wrecsam
Work

WRECSAM 2029

Rydym wedi ymrwymo i gymryd Bwrdeistref Sirol Wrecsam tuag at ddyfodol lle mae diwylliant yn chwarae rhan allweddol, gan arwain at gais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.
Rydym yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i ddatblygu ein seilwaith, sefydlu cysylltiadau allweddol a buddsoddi mewn prosiectau sydd ag arwyddocâd lleol, gan gynnwys gweithio gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam i ddatblygu’r Cae Ras, adnewyddu ein marchnadoedd treftadaeth, creu Amgueddfa Bêl-droed newydd sbon i Gymru a thyfu ein rhaglen ddigwyddiadau ar raddfa fawr ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu Bwrdd Dros Dro sy’n cynnwys ystod amrywiol o unigolion sydd â’r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu a meithrin potensial diwylliannol Wrecsam ymhellach, gan roi gwerthoedd cymunedol wrth wraidd y sefydliad i sicrhau ein bod yn parhau i Godi Gyda’n Gilydd, gan ddefnyddio diwylliant er budd pawb.
Llongyfarchiadau unwaith eto i Bradford wrth iddynt baratoi i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025. Rydym yn edrych ymlaen at ymweld â chi yn ystod blwyddyn sy’n argoeli i fod yn wych!

Work
Contact

Cymryd Rhan

Tim Dinas Diwylliant 2029 Wrecsam, C/o Ty Pawb, Stryd y Farchnad,Wrecsam, Gogledd Cymru, LL13 8BG

Contact

    Contact

    © Tim Cais Wrecsam 2029

    Contact